Llanfair 
      Caereinion 
      Trosedd a chosb  
| Llyfr Cofnod Cwnstabl Jones | ||
|  
       Yn 1841 
        crewyd heddluoedd proffesiynol yn 
        Sir Drefaldwyn. Dyma’r tro cyntaf i heddlu proffesiynol go iawn gael ei 
        ddarparu yn yr ardal. Cyn hyn, roedd cyfraith a threfn yn cael eu cadw 
        gan gwnstabliaid plwyf.   | 
    ||
|  
       
 Un o’r plisym cyntaf i wasanaethu’r 
        sir oedd Cwnstabl Thomas Jones. Gan 
        amlaf roedd yn gweithio yn Llanerfyl, ond roedd yn dod yn rheolaidd i 
        Lanfair er mwyn cynorthwyo ar ddiwrnod marchnad. Fel pob plismon arall, 
        roedd yn rhaid iddo gadw Llyfr Cofnod neu ddyddiadur ynglyn â‘r hyn yr 
        oedd yn ei wneud bob dydd. Bob yn awr ac yn y man byddai sargant yn ymweld 
        ag ef er mwyn cawel golwg ar ei lyfr nodiadau i weld a oedd yn gwneud 
        ei ddyletswydd. Mae ei journal yn dweud llawer wrthym ynglyn â phlismona 
        yn yr 1840’au.   | 
    ||
| 
       Darnau o ddyddiadur Cwnstabl Jones sydd ar y tudalennau canlynol…  | 
    
| Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion | ||