Llanidloes
Trosedd a chosb
  Journal Cwnstabl Jones  
 

Victorian Policeman from MontgomeryshireDechreuwyd Heddlu Sir Drefaldwyn yn 1841. Un o’r cwnstabliaid cyntaf i weithio yno oedd P.C. Thomas Jones. Roedd yn gweithio yn y Four Crosses a Machynlleth (edrychwch ar dudalennau Machynlleth yr adran Trosedd a Chosb). Am ychydig fisoedd yn 1845/6 roedd yn gweithio gyda Chwnstabl Owen fel yr heddlu ar gyfer Llanidloes a’r ardal.

Fel pob cwnstabl arall roedd yn rhaid i P.C. Jones gadw Journal neu ddyddiadur o beth roedd yn gwneud bob dydd. Bob yn awr ac yn y man byddai Sargant yn ymweld ag ef o’r Drenewydd i gael golwg ar ei lyfr nodiadau er mwyn gwneud yn siw^r ei fod yn gwneud ei waith yn iawn. Gweddill yr amser roedd ef a P.C. Owen yn gweithio ar wahân neu’n gwneud fel ag yr oedd yr Ynadon Heddwch lleol yn dweud wrthynt.

 
  Dewiswch o’r ddewislen a welwch chi nesaf er mwyn gweld beth oedd hi fel i fod yn blismon yn yr 1840’au yn Llanidloes.  
  Diwrnod o waith
Achos Thomas Humphreys
Ffrae deuluol
.
 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes