Llanidloes
Trosedd a chosb
  Diwrnod o waith i PC Jones  
 

Yr hyn a ddarllennir amlaf yn nyddiadur PC Jones' yw "Nothing to report". Yn debyg iawn i heddiw, roedd Sir Drefaldwyn ar ddechrau cyfnod Fictoria yn lle heddychlon iawn y rhan fwyaf o’r amser. Roedd gan PC Jones droseddau yr oedd yn rhaid iddo ddelio â nhw, a hefyd gwaith nad oedd bob amser yn mwynhau ei wneud.

Mae’r darn nesaf yma sy’n dod o’i journal yn darllen:
"Conveyed Margaret Rowlands and her child to the Union Workhouse, Caersws".

 
  darn o'r Journal  
 

Roedd pobl dlawd nad oedd yn gallu cynnal eu hunain gan nad oeddynt yn gallu gweithio yn cael eu cloi yn y tlotai. (Ewch i’r tudalennau am y Tlotai os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am y system dlotai)

Roedd PC Jones hefyd yn gorfod mynd i’r tafarndai i wneud yn siw^r nad yna oedd yn creu trafferth a ddim yn gwerthu cwrw pan nad oeddynt fod i wneud hynny. Roedd yn gwneud hyn yn rheolaidd yn enwedig ar ddiwrnod marchnad ac ar y penwythnosau.

 
  darn o'r Journal
 

Mae’r darn yma yn sôn am PC Jones yn dal pobl yn yfed ar ddydd Sul !
"Visiting the public houses on Sunday morning on Church time - Saw three men tippling at the New Inn Public House kept by Ed[ward] Gorge. Found the rest all orderly".

Nid oedd yfed ar ddydd Sul yn cael ei ganiatáu gan bobl barchus Powys !
.

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes