Llanfair Caereinion
Trosedd a chosb
  Symud pobl ymlaen  
 

Un o’r cofnodion sy’n ymddangos amlaf yn journal PC Jones' yw "Nothing to report". Mae’n rhaid ei bod yn ardal dawel iawn ar ddechrau oes Fictoria, ond roedd yn treulio llawer iawn o’i amser yn holi ynghylch pobl ddiethr yn yr ardal.
Yr hyn oedd yn pryderu tirfeddiannwyr oedd na fyddai pobl ddieithr oedd yn teithio drwy’r ardal efallai yn gallu cynnal eu hunain, ac yn hawlio arian oddi wrth y sawl oedd yn Goruwchwylio’r Tlawd yn yr ardal leol. Roedd pob un o’r tirfeddiannwyr lleol yn gorfod talu trethi i’r tlawd ac nid oeddynt am i hyn gynyddu, fel y byddai’n gwneud pe bai mwy o bobl yn ei hawlio.
Yn ystod yr adeg yma roedd llawer o fasnachwyr tlawd yn teithio ar droed i’r farchnad, a phobl dlawd yn teithio yn chwilio am waith. Mae journal PC Jones yn cofnodi hyn.

 
  Mae’r darn yma yn cofnodi pobl yr oedd yn dod o hyd iddynt mewn tai llety oedd yn teithio o amgylch Llanerfyl yn mis Hydref 1847. Mae’r darn yn darllen:
"2 men & two women pedlers. One Hardware seller, one Book Seller one Hat Seller"
 
  extract from PC Jones' journal
  Mae’r darn yma o fis Chwefror 1848 yn darllen:
"One sweep wife & 2 childrens. One Earthenware Seller"

Ymysg pobl eraill y soniodd PC Jones sôn amdanynt oedd gwneuthurwyr hetiau, gwerthwyr fferins, hogwyr rasel, rhai oedd yn gwerthu dillad, masnachwyr menyn a 2 Bregethwr y Mormoniaid.
.
 
  Yn ôl i Journal Cwnstabl Jones..  
  Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion