Llanfair
Caereinion
Trosedd a chosb
Mewn stad o lwgu ! |
Geirfa
|
|
Yn debyg iawn i heddiw, roedd Sir Drefaldwyn ar ddechrau oes Fictoria ar y cyfan yn amser heddylchlon. Serch hynny roedd gan PC Jones droseddau i’w datrys, a charcharorion i’w cludo i’r llys yn y ‘Goat Inn’ neu Drefaldwyn. Roedd yna rai pethau i’w gwneud y byddai’n siwr o’u hystyried yn rhai annifyr. Mae’r darn yma o’i journal a welwch chi nesaf yn ein hatgoffa bod y cyfnod ar ddechrau oes Fictoria yn galed iawn i’r bobl dlawd yn y gymdeithas yn arbennig i deuluoedd lle nad oedd neb yn gallu gweithio. |
Ynadon Heddwch – dynion addysgiedig oedd yn berchen ar eiddo oedd yn cynnal digwyddiadau sirol ar ran y Frenhines. | |
Mae’n darllen: "I was ordered by the Revd. S Richards to visite [visit] the house of Catharina Morris. The report was givien [given] that her & 4 children was in a state of starvation. I reported the surcumstances [circumstances] to the overseer of the Parish" |
||
Byddai’r teulu tlawd hwn, yn fwy na thebyg, yn cael ei gynorthwyo gan Oruchwyliwr y Tlawd a fyddai, gan amlaf, wedi trefnu i’r teulu mynd i’r tloty. (Er mwyn gweld mwy am dlotai ewch i’r darn am Dlotai sydd yn y rhestr o bynciau). Sylwch fod PC Jones yn cymryd gorchmynion oddi wrth y ficer oedd yn ôl y tebyg yn Ynad Heddwch. Nid oedd ganddo uwch swyddog wedi’i leoli gerllaw. Fel y gallwch weld roedd Cwnstabl Jones yn gallu darllen ac ysgrifennu ond yn debyg iawn i ni heddiw roedd yn cael trafferth sillafu! |
Yn ôl i Journal Cwnstabl Jones.. | ||
Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion | ||