Llanfair
Caereinion
Trosedd a chosb
Gwyddelod yn yr ardal | ||
Ymysg y bobl dlawd a symudwyd ymlaen
gan Cwnstabl Jones oedd grwp o Wyddelod.
Mewn ardaloedd gwledig fel Sir Drefaldwyn mae’n rhaid mai rhywbeth anghyffredin
iawn oedd gweld teuluoedd cyfan o Wyddelod yn byw yng nghefn gwlad. Roedd
y Gwyddelod yn gweithio drwy adeiladu camlesi a rheilffyrdd, ond roedd
y bobl dlawd hyn yn hollol anobeithiol. Daeth PC Jones ar draws grwpiau o Wyddelod pan oedd yn gweithio ym Machynlleth. Yn debyg iawn i’r rhan fwyaf o bobl mewn ardaloedd gwledig roedd yn ddrwgdybus o bobl ddieithr, yn enwedig pobl o dramor nad oedd yn gallu cynnal eu hunain. |
Mae’r darn
a welwch chi yn cofnodi’r hyn a wnaeth pan ddaeth ar draws Gwyddelod ar
y ffordd o amgylch Llanerfyl ym Mawrth 1848. Mae’n darllen:- "I remooved [removed] the above mentioned lot of Irish people out of my section in the direction of Llanfair". |
||
Wedi iddynt
gyrraedd Llanfair Caereinion, nid oes amheuaeth iddynt gael eu symud
ymlaen unwaith eto. . |
Yn ôl i Journal Cwnstabl Jones.. | ||
Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion | ||