Y gwaith
tun yn Ynyscedwyn nesaf at fwâu y gwaith haearn anorffenedig
Llun o gasgliad
y diweddar John Morris
Dyddiau Tun Plât
Addaswyd y safle eto er defnydd newydd pan gymerodd y Cwmni Tun
Plât Cymreig yr awenau. Erbyn 1889, roedd cynhyrchu tun
plât dan reolaeth David Thomas ar Cwmni a oedd wedi
adeiladu tair melin ar y safle er mwyn manteisio ar lewyrch y
diwydiant tun plât ar y pryd. Ym Mawrth 1891, llogwyd y
gweithfeydd gan ystad Gough i R.G. Thomas am rent sylfaenol o
£60 y flwyddyn. Cyflwynwyd Tollau Mckinnley ym mis Gorffennaf
y flwyddyn honno er mwyn gwarchod diwydiant tun plât UDA.
Gan fod y wlad honno wedi bod yn gwsmer o bwys, daeth y doll
yn fwrn ac yn ddangosydd o anobaith ar gyfer diwydiant De Cymru.
Gostyngodd cynnyrch a chaewyd y gweithfeydd gan gynnwys Ynyscedwyn
a gafodd ei gau yn 1903.
Cafodd ei ailagor dwy flynedd yn ddiweddarach
gan gwmni Tun Plât Ynyscedwyn a ffurfiwyd gan Clee, Mitchell
a Berrisford. Yn 1926, prynodd y Cwmni rydd-ddaliad y safle.
Parhaodd y gwaith cynhyrchu tan 1941 pan roddodd ad-drefnu cynhyrchu
metelau ar adeg y rhyfel flaenoriaeth i arfau. Er yr ymdrech
ar raddfa fechan i ailddechraur gwaith ar y safle yn 1946,
daeth hanes hir y diwydiant i ben ar y safle hwn yn ystod y flwyddyn
ganlynol a chafodd yr adeiladau eu datgymalu.
© Len Ley
Lluniau o
gasgliad y diweddar John Morris
Efallai mair symbol mwyaf o fedrusrwydd
diwydiannol y safle oedd corn simnai mawr y Gwaith Haearn. Gwelodd
yr hanesydd lleol John Morris funudau olaf y strwythur gwych
hwn pan gafodd ei ddymchwel.
Mae 7 tudalen ar Stori
Haearn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau
eraill.