Project Logo 

Cwm Tawe Uchaf
Stori Haearn 1
gan Len Ley

 Safle Gweithfeydd Haearn Ynyscedwyn

  Dyma fersiwn wedi’i adolygu o draethawd manwl gan yr hanesydd lleol Mr Len Ley. Mae’r fersiwn llawn ar gael ar gais yn Llyfrgell Cangen Ystradgynlais.

 

Dechreuadau
Mae gan gynhyrchu haearn hanes hir yn yr ardal hon a dywedir fod hyn yn tarddu o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Cofnododd Theophilus Jones y cafodd darn o haearn gyda’r stamp 1612 ei ganfod 26 mlynedd yn ddiweddarach yn yr hen wely lludw yn Ynsycedwyn. Os mai dyma’r achos, mae’n debygol bod metel wedi cael ei smeltio yma yn ystod teyrnasiad Elizabeth I. Mae’r dystiolaeth gynharaf a gofnodir yn dangos bod Mr Brunton o Lundain wedi adeiladu ffwrnais yn Ynyscedwyn yn 1628. Yn ddiweddarach, fe gafodd y gweithfeydd eu llogi gan Richard Crowley ac adeiladodd ffwrnais a drodd yn adfail yn ddiweddarach. Erbyn 1711, Ambrose Crowley a John Hanbury oedd meddiannwyr y safle.
Yn 1717, roedd y gweithfeydd yn cynhyrchu oddeutu 200 tunnell o haearn craidd y flwyddyn gan ddefnyddio mwyn haearn lleol, calchfaen o Gribarth a’i smeltio gyda golosg a gludwyd â cheffyl a phwn o unrhyw ffynhonnell lle yr oedd ar gael. O ganlyniad, roedd lle yr oedd haearn yn cael ei gynhyrchu’n cael ei gyfyngu i’r math o gludiant ar gael. Roedd ffwrnesi Ynyscedwyn yn un o saith ffwrnais yn Ne Cymru yn 1750.

 Nodwyd gweithfeydd Ynyscedwyn ar gynlluniau Cwmni Camlas Abertawe 1794.

Archifdy Sir Powys
B/QS/

  Yn Hydref 1788, llogwyd y safle gan James Gough o Ynyscedwyn a John Woodhouse o Aymestry yn Swydd Henffordd i Richard Parsons, meistr Haearn o Gadoxton a Rees Williams o’r un plwyf. Roedd y brydles yn cynnwys anheddle a elwid yn Tþ Coch; hawliau dðr o’r Afon Twrch i yrru’r olwynion dðr a pheiriannau’r ffwrnesi; a gweithio mwynau ar dir Mr Gough gyda chyfyngiadau neilltuol.
  Mae 7 tudalen ar ‘Stori Haearn’. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.