Project Logo 

Cwm Tawe Uchaf
Stori Haearn 3
gan Len Ley

 

Tîm Newydd
Wedi marwolaeth Richard Parsons, cymerwyd yr awenau gan ei feibion Richard a Samuel. Cafodd un ffwrnais fechan ei hadeiladu ganddynt i’r gogledd o’r un gwreiddiol ond ni wnaethant lawer mwy i ehangu’r busnes . Wedi ychydig flynyddoedd, fe brofwyd anawsterau ariannol ganddynt a daethpwyd â David Thomas, peiriannydd 21 mlwydd oed o Weithfeydd Haearn Abaty Castell Nedd i fewn i’r busnes fel Uwch Arolygydd y Gwaith Haearn. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, datganwyd y brodyr yn fethdalwyr ac wedi mwy nag un newid mewn perchennog, cyflogwyd George Crane o Bromsgrove fel Rheolwr Y Gweithfeydd gan y rheolwyr newydd.
Cydweithiodd Thomas a Crane am oddeutu ugain mlynedd ac roedd y dull o smeltio haearn a berffeithiwyd ganddynt i gael effaith trawiadol ar hanes cynhyrchu haearn gartref ac yn UDA.

 Darlun gan y diweddar David Richards

  Y system newydd
Llwyddiant rhannol yn unig fu ymdrechion cynnar David Thomas i ddefnyddio glo carreg fel yr adawaenwyd bryd hynny. Daeth tro ar fyd pan welodd Thomas waith y peiriannydd Albanaidd James Beaumont Neilson a ddyfeisiodd y ffwrn chwyth poeth yn 1829 a oedd yn cynhesu’r aer o flaen llaw ac yn ei chwythu i mewn i’r ffwrnais. Gwelodd y gellid ei addasu i losgi glo carreg lleol yn Ynyscedwyn. Wedi ymweliad â’r Alban, dychwelodd Thomas ac adeiladodd ffwrn chwyth poeth a’i gysylltu i’r ffwrnais am bris cystadleuol. Daeth datblygiadau Thomas i sylw’r diwydiant haearn Americanaidd a gadawodd Thomas i ddatblygu ei system newydd yn y maes glo carreg ym Mhensylfania.
  Wedi i Thomas adael, daeth ei gynorthwy-ydd blaenorol, John Clee yn Uwch Arolygydd a datblygodd tair ffwrnais i ddefnyddio’r dull aer poeth gan gadw’r ffwrnais mewn cyflwr o chwyth parhaol yn y pendraw.
  Mae 7 tudalen ar ‘Stori Haearn’. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.