Project Logo 

Cwm Tawe Uchaf
Stori Haearn 6
gan Len Ley

Ffowndri y brodyr Evans yn Ynyscedwyn

Llun o gasgliad y diweddar John Morris

EVANS BROTHERS FOUNDRY
Ffowndri Ynyscedwyn
Fe ddaeth y brodyr David a Thomas Evans yn berchnogion ar safle Ynyscedwyn gan greu Ffowndri Haearn Crane am ychydig amser yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hyn yn cynnwys ffowndri haearn a oedd yn gallu cynhyrchu castadiau hyd at 2 dunnell a chafodd yr haearn ei fwrw unwaith yr wythnos. Defnyddiwyd metel sgrap fel arfer a chafodd hwn ei doddi mewn ffwrnais grom. Roedd llawer o’r gwaith a oedd yn cael ei wneud ar gyfer y diwydiant glo lleol ac roedd hyn yn cynnwys cyflenwi olwynion tramiau a phwyntiau rheilffordd yn bennaf ar gyfer tramffyrdd y pylloedd glo.
  Roedd y perchennog wedi cael trwydded i gynhyrchu a defnyddio dur rhannol o dan batent UDA. Roedd y metel hwn yn hynod o hydwyth a hawdd ei drin a defnyddiwyd ef yn bennaf ar gyfer olwynion tramiau. Cafwyd ffowndri efydd bychan yn rhan o’r gweithfeydd ac roedd y mwyafrif o’r cynnyrch ar gyfer defnydd diwydiannol er y gwnaed rhai ffenderydd efydd ar gyfer y lle tân er defnydd domestig lleol.

Drws Haearn Bwrw gyda motiff Crëyr Glas o Ffowndri Ynyscedwyn.

Trwy ganiatâd caredig Amgueddfa Brycheiniog.

Yn y Ffowndri, y gwneuthurwr patrymau oedd y prif grefftwr wrth gynhyrchu castadiau metel. Symudodd y grefft yn ei blaen o gasadiau haearn craidd cynnar i gliriadau mwy cywir a oedd yn ofynnol mewn casadiau metelau purach. Byddai gwneuthurwr y patrymau yn creu’r siâp a oedd yn ofynnol gan roi pefel fechan i’r patrwm a oedd yn galluogi symud y metel o’r mowld heb amharu ar y tywod. Rhywle yn agos at y ffowndri safai Siop y Cwmni. Dyma oedd Siop Dryc Ynyscedwyn a werthai popeth o fwyd i’r arch derfynol. Mae cofnodion yr eglwys yn dangos bod William Petherick wedi bod yn groser yn siop y gweithfeydd yn ystod y blynyddoedd wedi 1891.

Safle Ynyscedwyn yn 1887 o’r argraffiad cyntaf o fap Arolwg ordnans 6" yn dangos y gamlas a chysylltiadau rheilffordd ar y ffin â Morgannwg.

Archifdy Sir Powys

  Mae 7 tudalen ar ‘Stori Haearn’. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.