Project Logo 

Cwm Tawe Uchaf
Stori Haearn 2
gan Len Ley

 

Tenantiaeth Mr Parsons
Ganwyd Meistr Richard Parsons yng Nghlydach. Yn y lle cyntaf, bu’n byw gyda’r teulu Gough ond symudodd yn ddiweddarach i’w gartref ei hunan. Roedd yn gymharol llwyddiannus yn Ynyscedwyn ond ychydig a wnaeth i ddatblygu’r grefft o smeltio haearn. Cynhyrchodd gryn dipyn o haearn craidd ac anfonwyd y mwyafrif ohono ar gyfer balastadau llongau. Cludwyd ychydig ohono ar gefn mul dros y Mynyddoedd Du i’r efail yn Llandefaen. Adeiladodd ei efail ei hunan yng Nghlydach yn 1790 ac wedi hyn, cludodd ei haearn gyda cheffylau pac ar hyd lannau’r Afon Tawe.
Yn y dyddiau hynny, talwyd swllt y diwrnod i weithiwr diwydiannol ac roedd haearn yn costio rhwng £13 a £18 y dunnell. Daeth siarcol yn ddrud iawn a dechreuodd Parsons ddefnyddio golosg a gafwyd o Graig Oleu. Erbyn 1796, roedd Ynyscedwyn yn cynhyrchu 800 tunnell o haearn y flwyddyn gyda glo’n cael ei brynu o’r cwm isaf. Roedd y glo carreg lleol yn anaddas ar gyfer y ffwrnesi a ddefnyddiwyd yn y cyfnod hwn. Enillodd Mr Parsons gytundebau gan y llywodraeth ar gyfer arfau rhyfel a phelenni magnel a wnaed yn Ynyscedwyn a chanfuwyd y rhain ar ochr y Farteg ac yn ardal Tarreni.
  Roedd ffwrnesi Ynyscedwyn nawr yn gynhyrchydd haearn pwysig a phrynwyd calchfaen a mwyn haearn yn lleol gyda’r glo a’r golosg yn cael ei gludo mewn modd mor economaidd â phosibl o ychydig filltiroedd i ffwrdd. Parhaodd y ddibyniaeth hon ar gludiant ceffyl pac i gyfyngu twf y diwydiant yn yr ardal.

Llinell y dramffordd ar Gribarth ( a nodwyd gan y Saethau) fel yn weledol yn yr 1970au.


O gasgliad y diweddar John Morris.

  Datblygiadau Newydd
Roedd adeiladu’r tramffyrdd yn golygu gwell mynediad at y galchfaen a golygodd cwblhau Camlas Cwm Tawe, a oedd yn cysylltu Ynyscedwyn gyda’r cwm isaf a phorthladd Abertawe a marchnadoedd newydd, bod y broblem o gludo deunyddiau trwm wedi cael ei datrys yn effeithiol wedi hyn.
  Mae 7 tudalen ar ‘Stori Haearn’. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.