Project Logo 

Cwm tawe Uchaf
Stori Haearn 4
gan Len Ley

 

Tenantiaeth George Crane
Yng Ngorffennaf 1837, fe logodd Richard Douglas Gough Weithfeydd Haearn Ynyscedwyn, ynghyd â’r hawliau mwynol a’r ty^ sef Tþ Coch i George Crane. Cafodd camlas cangen ei hadeiladu er mwyn cysylltu’r gwaith i brif camlas Cwm Tawe ac roedd hyn ynghyd â’r tramffyrdd a oedd yn cael eu datblygu yn ffyrdd effeithiol iawn o gludo.

Cynllun o weithfeydd Haearn o Gofnodion ystad Ynyscedwyn.
(Noder cangen Camlas Abertawe ar ran uchaf y ddelwedd)


Trwy ganiatâd caredig Swyddfa Gofnodion Gorllewin Morgannwg
(cyf. D/D/Yc 1175)

plan of the worksFe barhaodd y gweithfeydd i ffynnu o dan reolaeth Crane ac erbyn blwyddyn ei farwolaeth yn 1846, roedd saith ffwrnais yn gweithredu a chynyddodd cynhyrchu Haearn Glo Carreg yn gyflym gan gynnal Ynyscedwyn fel un o’r prif drefi cynhyrchu haearn. Er hynny, byddai gweithfeydd haearn a gwblhawyd yn ddiweddar yn Ystalafera a oedd yn gweithredu drwy’r dull aer poeth ar gynhwysedd llawn ac a oedd yn tyfu’n gyflym yn rhagori ar Ynyscedwyn.
  Daeth Crane i feddiant pum pwll glo, a’r rhain oedd yn cyflenwi glo ac roedd rhai ohonynt yn bwydo llawer iawn o fwyn haearn i’r ffwrneisi. Cafodd cyflenwadau eraill o fwyn haearn eu cloddio’n lleol a daeth rhywfaint o gyflenwadau o tramor i mewn trwy Abertawe. Erbyn hyn, cafodd tramffordd Coedwig Aberhonddu ei hymestyn i ‘Gurnos Wharf’ gyda man llwytho ar gyffordd cangen y gamlas gyda’i brif gamlas gyfatebol. Roedd y tramffyrdd yn gysylltiedig â’r gwaith yna yn caniatáu cludo cyflenwadau o danwydd o bwll glo Hendreladus a chalchfaen o Benwyllt yn uniongyrchol i’r ffwrnesi.
O gasgliad y diweddar John Morris.
Gorchudd Llyfr Rheolau Pyllau Glo y Cwmni Haearn
  Fe barhaodd Ynyscedwyn i fod yn eitha llwyddiannus ac yn 1853, roedd chwech o staciau yn chwythu aer poeth. Cyflogwyd mil o ddynion ar y safle gyda 240 o bobl ychwanegol yn y pyllau glo a oedd yn eiddo i’r gweithfeydd.

 Archifdy Sir Powys


Mae’r dyfyniad o gofnodion Sesiwn Chwarterol Sir Frycheiniog yn atgoffäwr llwm o ba mor wahanol oedd amodau gweithio yn ystod cyfnod George Crane. Dyma George Jones a garcharwyd am fis gyda llafur caled oherwydd cwyn gan Mr Crane am iddo adael ei waith pan ar gontract.
  Mae 7 tudalen ar ‘Stori Haearn’. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.