Y dyddiau olaf o gynhyrchu
haearn Etifeddodd Patrick
Moir Crane weithfeydd Ynyscedwyn ar farwolaeth ei dad a bun
rheoli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Crëwyd anawsterau
ariannol gan ei ddiffyg profiad ai ddiffyg diddordeb ac
erbyn 1857, dychwelodd rheolaeth dros y safle ir bancwyr,
Maryett a Pryce a bu un ohonynt yn byw ym Maesydderwen am ychydig
amser wedi 1857.
Gweithfeydd Haearn
Ynyscedwyn
O gasgliad y diweddar
John Morris.
Roedd newidiadau mawr ar
droed yn y diwydiant metel ac yn 1856, perffeithiodd Bessemer
ei broses gwneud dur a bu hyn ynghyd âr modd aneconomaidd
o gludo mwyn haearn ir tir mawr yn ergyd farwol i gynhyrchu
haearn yng Nghwm Tawe Uchaf. Yn ystod y blynyddoedd hyn, ni chyfrannodd
Moir Crane nai olynydd Joseph Marryett lawer at faterion
yn Ynyscedwyn a dirprwyodd pob un ei faterion busnes iw
asiant perthnasol.
O gasgliad y diweddar John
Morris.
O 1860 ymlaen, nid oedd mwy na 2 ffwrnais yn
gweithio yn Ystradgynlais. Dwy flynedd yn ddiweddarach, roedd
Joseph Marryett dal yn bartner yn Ynyscedwyn ac yn y gorffennol
agos, cafodd y gwaith ei arolygu gan nifer o reolwyr y Ffwrnais
ac asiantaethau mwynau.
Cofnodir mai Mr John Macdonald oedd Rheolwr y Gweithfeydd yn
1868. Y flwyddyn ganlynol, caewyd y safle. Deuddeg mis yn ddiweddarach,
cafodd ei ailagor gydag un ffwrnais. Ni pharhawyd ag adeiladu
gweithfeydd newydd yn 1872 a chafodd y bwâu o friciau melyn
eu gadael fel cofeb.
Mae 7 tudalen ar Stori
Haearn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau
eraill.