Y Trallwng a'r cylch
Trosedd a chosb
  Dyddiadur Cwnstabl Jones  
 

Ffurfiwyd Constablwari Sir Drefaldwyn yn 1841. Un o’r plismyn cyntaf i wasanaethu yn yr heddlu oedd y Cwnstabl Thomas Jones.
Bu’n gweithio yn Llanidloes, Llanerfyl a Machynlleth (gwelwch ei dudalennau yn adran Trosedd a Chosb ym Machynlleth). Bu’n blismon yn ardal Four Crosses hefyd.
Fel pob plismon arall roedd yn rhaid i’r Cwnstabl P.C. Jones gadw Dyddiadur o’r hyn fyddai wedi’i wneud bob dydd. Bob hyn a hyn byddai Sarjant yn dod i’w weld ac i fwrw golwg dros ei lyfr nodiadau er mwyn bod yn siwr ei fod yn gwneud ei waith. Am y gweddill o’r amser byddai’n gweithio wrtho’i hun neu’n derbyn gorchmynion oddi wrth yr Ynadon Heddwch lleol.

PC Jones
Dewiswch o’r ddewislen isod i gael gweld sut beth oedd bod yn blismon yn yr 1840au ar ffiniau Sir Drefaldwyn.  

Pobl ddieithr ar dramp
Dianc o’r tloty

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd Y Trallwng