![]() |
|
||||||||||
|
|
|||||||||||
|
Y
Trallwng a'r cylch Trosedd a chosb |
|||||||||||
| Pobl ddieithr ar dramp | ||
|
Y cofnod a welwyd amlaf yn nyddiadur
y Cwnstabl Jones oedd "nothing
to report" . Mae hyn yn arwydd o ba mor dawel oedd bywyd yn agos
at y ffin y rhan fwyaf o’r amser.
Roedd y Cwnstabl Jones yn gorfod delio â phethau fel cweryla rhwng cymdogion
neu anifeiliaid strae ar y ffordd. |
|
Doedd
sillafu’r Cwnstabl Jones ddim yn wych iawn, ac mae’n bur debyg na chafodd
yntau rhyw lawer o addysg.
|
![]() |
"I saw two men
on the road by the Fir Tree Beer Shop. They looked to be labours [labourers].
They stated thay ware from Shropshire and thair
names was John Thomas and David Jones, And thay ware going to Llanfyllin
to try to get a job to drive some cattle." |
| Roedd Mr
Jones yn amau y gallai dieithriaid tlawd fod yn barod i wneud unrhyw beth
fel dwyn oddi ar bobl leol, felly roedd
yn cadw llygad arnynt. (Edrychwch ar yr achos o ddwyn
yn Y Trallwng er mwyn cael tystiolaeth fod dieithriaid yn gwneud yr union
beth hynny). Ym Mehefin 1844 anfonwyd ef i ddelio â dieithriaid yn Criggion... |
![]() |
||
| "I
was sent for by Messrs Ridge and Jones of Criggion. Thare was a lot of som[e]
tramping people with donke[y]s and horses tresspassing
on them. I sent them all clier [clear] a way.
Thare was a large Beef given to The Poor at the Ardline Public House. I
attended" Mae’n debyg mai teithio trwy’r ardal oedd y dieithriaid gan brynu a gwerthu eitemau bychain a gwneud jobsys bach. Mae’n siwr eu bod yn gwersylla ar diroedd y ddau ffermwr lleol yma. |
![]() |