Y Trallwng a'r cylch
Trosedd a chosb
  Dianc o’r tloty  
Er mwyn gwybod mwy am Dloty Llanfyllin cliciwch yma
Ym Mawrth 1844 arestiodd y Cwnstabl Thomas Jones ddyn oedd wedi dianc o Dloty Llanfyllin.
Humphrey Thomas oedd y dyn yma druan, a oedd yn un o drigolion y tloty. Os nad oedd gennych ddigon i fyw arno yn Oes Fictoria gallech ofyn am help o’r tloty. Yno byddech yn cael bwyd, dillad a tho uwch eich pen, ond byddech yn cael eich cadw dan glo. Ni fyddech yn cael mynd oddi yno hyd nes y gallech brofi eich bod yn gallu ennill bywoliaeth.
Mae’n rhaid fod cael ei gadw tan glo heb fedru gweld ei deulu a’i ffrindiau wedi bod yn ormod i Humphrey Thomas, a rhedodd i ffwrdd.
Ond nid cael ei gludo’n ôl i’r tloty oedd yr unig beth ddigwyddodd iddo, fel mae’r rhan hwn o ddyddiadur y Cwnstabl Jones yn ei ddangos. Bu’n rhaid iddo fynd o flaen yr ynadon lleol a chael ei gyhuddo fel drwgweithredwr.
 
  "I took the above named Humphre[y] Thomas before M. Williams Esq. Charged by Mr Jones, Governor of Llanfyllin Union Workhouse for having absconded on the 27th day of October last and took on him one coat and waistcoat, one trowers [trousers] one shirt and pare [pair] of stockings the property of the Guardians of the said Union house. He was committed to 14 days Hard Labour.
I took the above named prisoner to Myfod and gave him in the charge of Sargeant Lloyd, Myfod"
 
 

Yma gwelwn fod Humphrey Thomas wedi’i gadw tan glo fel drwgweithredwr am ddwyn y dillad a wisgai pan redodd i ffwrdd.
Ar ôl bod yn torri cerrig am 14 o ddyddiau yng Ngharchar y Sir fe’i rhyddhawyd, ac mae’n debyg iddo fynd yn ôl i’r tloty yn syth. Yn awr, roedd ganddo record droseddol a byddai’n anodd iawn iddo gael gwaith yn unman. Mae’n bosib ei fod wedi treulio blynyddoedd o dan glo yn y tloty.

 

Yn ôl i ddewislen Trosedd Y Trallwng