Machynlleth
Y Tloty
Undeb Deddf y Tlodion Machynlleth | ||
Yn 1834 cyflwynodd y llywodraeth system newydd sbon ar gyfer gofalu am y tlawd. Rhanwyd y wlad yn ardaloedd er mwyn rhoi gofal i’r tlawd trwy Undebau Deddf y Tlodion lleol. Dyma sut y cafodd Undeb Machynlleth ei ffurfio, a chynhaliwyd yr undeb gan Fwrdd o Warchodwyr, sef pobl a oedd yn dod o bob man o’r ardal. Roedd y llywodraeth yn disgwyl i Undeb Machynlleth gloi’r tlodion – neu bobl dlawd – nad oedd yn gallu edrych ar ôl eu hunain, mewn tlotai mawr newydd. Ond doedd Undeb Machynlleth yn debyg iawn i Undeb Rhaeadr ddim yn barod i adeiladu tloty, gan ddewis yn lle hynny i dalu arian allan o gronfa’r Undeb a gadael i’r tlodion fyw yn eu cartrefi. Er mwyn cael gweld sut roedd y bobl dlawd yn cael gofal gan Undeb Machynlleth yn ystod cyfnod Fictoria, dewiswch o’r rhestr a welwch chi nesaf. |