Machynlleth
Y Tloty
  Marwolaethau yn y tloty yn 1865
Geirfa
 

Fel pob tloty arall yn y wlad roedd yn rhaid i dloty Machynlleth gadw cofnodion a chyfrifon manwl, ac roedd pobl yn dod yno i wneud yn siwr eu bod yn gywir. Er nad yw llawer o’r cofnodion yma ar gael nawr, mae gan Archifau Sir Powys Gofrestr Marwolaethau’r tloty.

Yr hanes a gofnodir yn y llyfr yma, fwy na thebyg, yw’r hanes tristaf a geir yn holl gofnodion y tloty. Mae’n dangos pa mor galed oedd bywyd y bobl fwyaf tlawd yn y gymuned yn ystod cyfnod Fictoria. Mae’r darn hwn yn sôn yn fyr am y rheini a fu farw yn y tloty yn 1865. Mae’n dweud pryd y buont farw, eu henwau, eu hoedran, ac o le roeddynt yn dod.

anhysbys – gair i ddisgrifio rhywun nad oes neb yn gwybod pwy ydyw.
 
 
  Entry from workhouse records
 

Mae’n darllen:
"January 10th 1865 - Alice Jones - 1year - Uwchygarreg
March 30th 1865 - David Jenkins - 75 - Machynlleth
June 29th 1865 - David Lewis - 9months - Towyn
November 4th 1865 - Richard Roberts - 1 day - Darowen
November 4th 1865 - Ann Roberts - 1 day - Darowen
November 4th 1865 - Isaac Williams - 8months - Uwchygarreg November 11th 1865 - Thomas Rees - 3months - Towyn"

Mae pob un o’r rhain yn sôn am yr henoed neu fabanod, y rhai oedd yn ei chael yn fwyaf anodd i wrthsefyll afiechyd a bwyd gwael. Mae’r hanes am farwolaeth drist Richard ac Ann Roberts dim ond diwrnod oed yn arbennig o drist – efeilliaid oeddynt yn fwy na thebyg – roedd eu mam anhysbys yn dod o Darowen.
.

 
 

Ewch i ddewislen Tlodion Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth