Machynlleth
Y Tloty
  Help gan yr Undeb
Geirfa
 

Y rheswm pam yr oedd pobl yn mynd i Undeb Machynlleth am help oedd achos eu bod yn methu ag ennill bywoliaeth eu hunain am ba reswm bynnag. Hyd nes i’r Undeb adeiladu tloty fe fyddent yn helpu’r bobl hyn trwy roi arian iddynt er mwyn iddynt fedru byw yn eu cartrefi hyd nes oeddynt yn gallu ennill arian eu hunain. Yr enw enw a roddwyd ar yr arian i’r tlawd oedd ‘Outdoor Relief’.

Mae’r darn hwn o gofnodion Undeb Machynlleth yn dangos rhai o’r bobl oedd yn derbyn ‘outdoor relief’ yn 1858. Mae pob un ohonynt yn bobl nad oeddynt yn gallu gweithio achos eu bod yn sâl, ac felly nid oeddynt yn gallu prynu bwyd neu ddillad, na thalu rhent. Roeddynt yn gallu gofyn am gymorth ar eu cyfer eu hunain neu rywun arall yn y teulu yr oeddynt yn gofalu amdanynt.

Debility - gwendid
Amputation - torri i ffwrdd (e.e. bys)
Dyspepsia - camdreuliad neu boenau yn y bol.

 
 
  Entry from Union records
 

Mae’r darn yn darllen:
"Evan Owen - 19 - Machynlleth - himself - "fever" - certified
Edward Rowland - 48 - Darowen - himself - "Debility"
Evan Roberts - 48 - Darowen - himself - " Diseased liver "
John Davies - 50 - Cemmes [Cemais] - himself - "amputation of finger"
William Jones - 43 - Cemmes - himself - "diseased liver"
John Edwards - 32 - Cemmes - himself - "diseased liver"
Thomas Jones - 43 - Mallwyd - himself - "Dispepsia" [dyspepsia]

Mae’r rhestr yn dweud beth yw’r enwau, oedrannau, ac o ble y maen nhw’n dod, ac ar ran pwy y maen nhw’n gofyn am arian, a beth yw eu salwch. Yn y golofn ar y diwedd, mae pob un ohonynt wedi’u rhestru fel "certified" sy’n golygu bod meddyg wedi bod i’w gweld a’u bod wir yn sâl.
Mae mwy am yr help gan Undeb Deddf y Tlodion Machynlleth ar y dudalen nesaf…

Help meddygol gan yr Undeb..

 

Ewch i ddewislen Tlodion Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth