Machynlleth
Y Tloty
Help meddygol i’r bobl dlawd iawn | ||
Yn ystod
cyfnod Fictoria doedd llawer o bobl dlawd ddim yn cael help
meddygol achos nid oeddynt yn gallu fforddio talu am feddyg.
Roedd Undeb Machynlleth yn talu meddygon fel swyddogion meddygol a oedd
yn trin tlodion sâl yn yr ardal. Roedd y driniaeth yn wahanol iawn i’r hyn yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw, ond roedd y meddygon yn gwneud eu gorau i’w cleifion. |
Mae’r darn cyntaf hwn o gofnodion
Undeb Deddf y Tlodion Machynlleth
yn darllen: (Leeches) Gelenod
neu fwydod sy’n sugno’r gwaed, Ar un adeg roedd meddygon yn defnyddio
gelenod i’w rhoi ar gyrff cleifion er mwyn iddynt sugno gwaed. Roeddynt
yn credu eu bod yn dda i wella’r dwymyn. |
||