Machynlleth
Y Tloty
Tloty newydd i Undeb Machynlleth | ||
Doedd Undeb
Machynlleth ddim yn hapus i adeiladu tloty newydd o gwbl,
ond roedd yr awdurdodau yn mynnu eu bod yn gwneud. Am amser roedd yn edrych
fel pe byddai Undeb Machynlleth efallai, yn cael ei chwalu. Roedd yr Undeb yn cael problemau dod o hyd i safle addas ar gyfer adeilad newydd a’r arian yr oedd ei angen i’w adeiladu. |
Daeth gwaith adeiladu’r tloty newydd ar ddiwedd Stryd Maengwyn i ben yn 1860. Hyd yn oed ar ôl agor y tloty newydd roedd yr Undeb yn talu symiau bach o arian i bobl yr ardal oedd yn cael problemau dros dro. Ond, roedd y rhai oedd â phroblemau mwy difrifol, yn gorfod mynd i’r tloty, ac fe fyddai eu pethau yn cael eu gwerthu gan yr Undeb er mwyn defnyddio’r arian i dalu am beth o’r costau. |
||