Machynlleth
Y Tloty
Plentyn wedi ei adael yn y tloty |
Geirfa
|
|
Mae
yna ambell i hanes yn rhai o hen gofnodion Undeb
Machynlleth sydd yn ein hatgoffa o ba mor galed oedd bywyd yn
nhloty cyfnod Fictoria. Roedd teulu oedd yn gorfod mynd i fyw i’r tloty yn cael eu rhannu, gan fod y dynion yn cael eu cadw ar wahan i’w menywod a phlant. Mae’n rhaid fod hyn yn galed iawn i’r teuluoedd tlawd, ond mae yna achosion sydd hyd yn oed yn waeth na hyn yn y cofnodion. |
Inmate
- person tlawd a oedd yn byw yn
y tloty |
|
Mae’r darn hwn yn dyddio yn ôl i
1862 ac mae’n sôn am Jane Pryce,
merch fach dwy flwydd oed, ac mae’n
darllen: Doedd dim
teulu o gwbl ar ôl gan y plentyn bach yma. Yr hyn yr oedd yr
Undeb yn gofidio amdano oedd pwy fyddai’n talu’r 5c yr wythnos pe bai’r
Matron yn gorfod gofalu amdani. |
||