Machynlleth
Y Tloty
  Ychydig bach o bleser i bobl y tloty
Geirfa
 

Pan ddechreuodd yr Undebau, y bwriad oedd i wneud pobl a oedd angen help deimlo cywilydd achos eu bod yn methu â gofalu amdanynt eu hunain. Erbyn diwedd cyfnod y Frenhines Fictoria roedd agwedd tuag at y tlawd wedi newid. Roedd mwy a mwy o bobl yn gweld nad oedd unrhyw fai ar y tlodion am fethu â gofalu am eu hunain. Yn syml iawn roeddynt naill ai yn rhy hen neu sâl i weithio a heb deulu i ofalu amdanynt. Merched gyda phlant bach oedd llawer ohonynt, a oedd wedi colli eu gwyr o achos eu bod wedi marw neu fod eu gwyr wedi rhedeg i ffwrdd a’u gadael.

Mae dau enghraifft o gofnodion Tloty Machynlleth yn 1900 yn dangos yr agwedd fwy caredig yma. Mae’r cyntaf yn dangos y bobl mwy cyfoethog yn ein cymdeithas yn cynnig cysur i’r rhai llai ffodus…

tendered – cynnig
Inmates – pobl a oedd yn byw yn y tloty

 
 
  Entry from workhouse records
 

Mae’r darn a welir yn darllen:
"Resolved that the thanks of the Board be tendered to the Most Honourable the Marchioness (D) of Londonderry and Mr & Mrs Edwards, Rock Ferry, for their treats to the inmates during the last month".

Mwy am bleserau bach y tloty…

 
 

Ewch i ddewislen Tlodion Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth