Machynlleth
Y Tloty
  Sioe lusern hud
 

Mae’r ail ddarn o gofnodion tloty Machynlleth yn 1900 yn sôn am yr ‘adloniant’ i’r bobl dlawd oedd yn byw yno.

Ni fyddai’r awdurdodau a sefydlodd y system newydd nôl yn yr 1830’au wedi meddwl am geisio rhoi ychydig o bleser ym mywydau’r bobl oedd yn byw yn y tloty.

 
  Entry from workhouse records
 

Mae’r darn hwn yn darllen: Victorian magic lantern
"Resolved that the thanks of the Board be given to the Ladies mentioned in the Master's Report for their magic Lantern Entertainment given to the Inmates on the 8th inst."

Roedd Sioeau Llusern Hud yn boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Fictoria. Roedd ffotograffau ar blatiau gwydr yn cael eu taflu ar sgrin fawr er mwyn i’r gynulleidfa eu gweld, ac fel arfer fe fyddai rhywun yn adrodd beth oedd yn cael ei ddangos ar y lluniau. Roedd lluniau a storiau o deithiau tramor yn boblogaidd iawn.
.

 
 

Ewch i ddewislen Tlodion Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth