Machynlleth
Bywyd ysgol
  Addysg a bywyd ysgol  
 

Ar ddechrau cyfnod Fictoria doedd y rhan fwyaf o blant ddim yn mynd i’r ysgol. Roedd y tirfeddiannwyr lleol cyfoethog yn talu tiwtor neu athrawes er mwyn dysgu eu plant adref gan anfon y bechgyn i ffwrdd i ysgol fonedd pan oeddynt yn hynach. Roedd dynion busnes a masnachwyr lleol yn anfon eu plant i ysgol breifat leol os oeddynt yn medru fforddio gwneud. Roedd plant y bobl dlawd yn gorfod mynd i weithio cyn gynted â’u bod yn ddigon hen i chwilio am waith gan fod y teulu angen yr arian ychwanegol.

Erbyn diwedd cyfnod Fictoria roedd ysgolion rhydd ar gael ar draws yr ardal a bellach roedd yn rhaid i blant fynd i’r ysgol yn rhywle.
Er mwyn gweld sut y digwyddodd rhai o’r newidiadau hyn yn yr ardal ac i weld pa broblemau oedd gan ysgolion yn y dyddiau cynnar, dewiswch o’r rhestr a welwch chi nesaf.

 
Ysgol newydd i Fachynlleth
 
 
Y Gymraeg yn yr ysgol
 
 
Pa fath o lefydd oedd yr ysgolion Fictoraidd
 
 
Salwch ac afiechyd
 
 
Absennol o’r ysgol
 
     
Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth