Machynlleth
Bywyd ysgol
  Talu am ysgolion Fictoraidd
Geirfa
 

Yn 1870 dechreuodd y llywodraeth system o ysgolio ar gyfer pob plentyn yn y wlad. Adeiladwyd ysgolion newydd mewn ardaloedd lle doedd dim ysgolion cyn hynny.
Fe fyddai plant yn mynd i’r ysgol bentref leol hyd nes oeddynt yn dair ar ddeg oed, gan adael bryd hynny i fynd i weithio. Roedd yr ysgolion newydd yn wahanol iawn i’r ysgolion cynradd heddiw, ac roedd gan athrawon a phlant lawer o broblemau i ddelio gyda nhw.

Y broblem gyntaf oedd y gost. Roedd teuluoedd tlawd yn colli arian wrth anfon eu plant i’r ysgol gan fod y plant hynaf yn medru mynd allan i weithio. Ond roedd costau eraill hefyd. Mae dau ddarn yn nyddiadur Ysgol Darowen yn dangos hyn….

(5d) 5swllt – 5 ceiniog yn yr hen bunt, tua 2 geiniog arian newydd
 
 
 
 

Yn y darn hwn sy’n dyddio yn ôl i 1870 mae’r Prifathro yn ysgrifennu:
"Told the children to bring their subscriptions of 5d each towards the fuel on Monday next."

Tân neu stôf oedd yn gwresogi’r rhan fwyaf o ysgolion bach ac roedd rhieni yn gorfod talu am y glo!
Weithiau roedd ysgolion yn rhedeg allan o lo ond hyd yn oed pan oedd glo roedd yr adeiladau yn ofnadwy o oer os nad oeddech yn eistedd union wrth ymyl y tân. Un tro rhewodd yr inc yn y potiau yn un o ddosbarthiadau ysgol Darowen.

Llawer iawn mwy o broblemau yn ysgol Darowen..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Machynlleth..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth