Machynlleth
Bywyd ysgol
Ysgol newydd i Fachynlleth yn 1829 | ||
Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (19eg ganrif) roedd y Gymdeithas Ysgolion Cenedlaethol yn awyddus i sefydlu ysgolion ar draws Cymru a Lloegr, a hefyd wrth gwrs ym Machynlleth. Bryd hynny doedd y rhan fwyaf o blant teuluoedd a oedd yn gweithio ddim yn cael unrhyw fath o addysg o gwbl, oni bai eu bod yn ddigon lwcus i fynd i’r Ysgol Sul. Yn aml iawn roedd teuluoedd tlawd yn gorfod anfon eu plant allan i weithio achos bod angen yr arian arnynt. Rhoddodd Mr John Jones grant o £1000 o bunnoedd er mwyn helpu i sefydlu Ysgol Genedlaethol newydd yn Doll Street yn 1829. Agorwyd yr ysgol gyntaf yn yr hen adeiladau a welwch chi ym mlaen yr hen ffotograff hwn. Roedd rhieni yn awyddus iawn i’w plant ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu. Roeddynt yn gobeithio y byddai hyn yn help iddynt gael swydd dda wedi iddynt adael ysgol, yn lle gorfod mynd i weithio ar y tir neu mewn pwll glo, ffatri neu chwarel lle’r oedd y tâl yn isel a’r gwaith yn galed a pheryglus iawn. |