Gan fod y Gymdeithas Ysgolion Cenedlaethol
yn Gymdeithas Eglwys Lloegr roedd
yn mynnu fod y plant yn dod i'r ysgol ar fore dydd Sul er mwyn dysgu crefydd
iddynt a hefyd i fynychu eglwys y plwyf ddwy waith y dydd.
Roedd yn rhaid i rieni oedd yn mynd i'r capel
benderfynu os oeddynt yn mynd i gadw eu plant o'r ysgol neu adael iddynt
fynychu'r eglwys doeddynt ddim yn cytuno ag ef. Yn ôl pob tebyg roedd
yr athrawon yn Ysgol Genedlaethol Machynlleth
yn cydymdeimlo ac yn caniatau i blant y capel beidio â mynd i'r eglwys
a chael gwersi crefyddol ar ddydd Sul.
Mwy am rheolau ysgol..
|