Machynlleth
Bywyd ysgol
  Bob amser yn siarad Cymraeg !  
 

Roedd y ffordd yr oedd addysg yn cael ei drefnu yng Nghymru gan y cymdeithasau Ysgolion a’r Byrddau Ysgolion yn debyg iawn i Loegr. Gwelwyd yr iaith Gymraeg fel rhywbeth a oedd yn rhwystro plant rhag dysgu, ac roedd yn llawer yn dweud y byddau llawer o Gymry yn cael eu dal yn ôl yn y byd modern pe na baent yn rhoi’r gorau i’r Gymraeg.

Roedd rhai ysgolion yn gwneud eu gorau glas i rwystro plant rhag siarad Cymraeg o gwbl, gan ddefnyddio cosb fel y Welsh Not. Saesneg oedd iaith y rhan fwyaf o wersi gan ddysgu dim ond caneuon Cymraeg. Dechreuoedd Prifathro newydd yn ysgol Darowen yn 1870. Mae dyddiadur yr ysgol yn sôn am iddo wneud cwyn.

 
 
 

Mae’r darn yn darllen:
"The late Master always talked Welsh with the children which makes it very hard to get an English word out of their mouths".
Fe fyddai llawer o’r plant a oedd yn mynd i ysgol Darowen yn ystod cyfnod Fictoria yn dod o deuluoedd lle doedd neb yn gallu siarad Saesneg. O leiaf roedd y prifathro cyn hynny yn gallu siarad gyda nhw. Roedd rheolwyr ysgolion mewn rhai mannau o Bowys yn cyflogi athrawon a oedd yn siarad Saesneg yn unig ar bwrpas.

Mwy am yr iaith Gymraeg mewn ysgolion lleol..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Machynlleth..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth