Machynlleth
Bywyd ysgol
  Cymeriad Cymreig y plant Geirfa
 

Roedd Arolygwyr yn ymweld ag ysgolion newydd yr ardal yn gyson er mwyn gweld os oeddynt yn gwneud pethau’n iawn. Mae eu hadroddiadau yn dweud llawer wrthom am y ffordd yr oedd pobl yn meddwl am yr iaith Gymraeg.

Mae’r darn nesaf yn dod o adroddiad ar ysgol Darowen sy’n dangos yr agwedd nawddoglyd oedd gan bobl tuag at yr iaith Gymraeg.

nawddoglyd – i edrych lawr eich trwyn ar rywbeth.
canmol – dweud bod rhywun neu rywbeth yn dda iawn.
 
 
 

Mae’r darn hwn, o’r 4ydd Gorffennaf, 1884, yn darllen:
"The Arithmetic is excellent, and after making some allowance for the Welsh character of the children, I think the Reading and Spelling are successfully taught, but the handwriting needs a good deal of improvement."
Ysgol Darowen oedd un o’r ysgolion mwyaf anghysbell ohonyn nhw i gyd yn yr ardal, ond roedd yr Arolygwyr bob amser yn canmol y disgyblion am weithio’n galed gyda ffigyrau presenoldeb yn ardderchog a chanlyniadau profion da. Mae hyn yn dangos fod teuluoedd yn helpu eu plant gan eu bod yn awyddus i’w gweld yn gwneud yn dda yn yr ysgol.

Mwy am yr iaith Gymraeg mewn ysgolion lleol

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Machynlleth..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth