Machynlleth
Bywyd ysgol
  Ennill bywoliaeth yn ystod cyfnod Fictoria  
 

Yn 1880 roedd yn rhaid i blant fynd i’r ysgol nes oeddynt yn 10 oed, ond ar ôl hyn roedd plant yn absennol yn aml iawn ar rai adegau o’r flwyddyn.
Pan oedd angen gwneud gwaith fel plannu neu godi tatws, neu os oedd hi’n amser y cynhaeaf, fe fyddai’r plant yn mynd i weithio yn y caeau achos yr oedd y teuluoedd angen yr arian yr oedd y plant yn gallu ennill.

 
 
 

Mae’r darn yma yn dod o ysgol Darowen Medi, 1880. Mae’n dweud: "Corn harvest going on briskly. Many small children who can be of use are kept at home, because their mothers are out working. Sewing and knitting as usual".

Roedd angen help y plant i ddod â’r cynhaeaf i mewn, a lle’n bosibl roedd y gwyliau ysgol ar yr un adeg er mwyn i blant y ffermwyr beidio â gorfod colli ysgol.
Roedd mwy o resymau dros beidio â mynd i’r ysgol yn ystod cyfnod Fictoria…..

Mwy am blant ysgol a gwaith..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Machynlleth..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth