Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines
Fictoria roedd yn rhaid dibynnu ar y ceffyl
er mwyn teithio ar draws Canolbarth Cymru. Roedd y cyfoethog yn teithio
yng ngherbydau eu hunain ac yn cyflogi staff i’w gyrru ac i ofalu am y
ceffylau.
Roedd y bobl hynny nad oedd mor gyfoethog yn gallu talu i deithio ar y
goets fawr. Ychydig iawn o’r dosbarth gweithiol oedd yn gallu fforddio
gwneud hyn. Iddynt hwy roedd teithio yn golygu cerdded !
Erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines
Fictoria, roedd yna reilffyrdd i gysylltu’r
ardal gyda’r byd ehangach. Roedd pobl o’r dosbarth gweithiol dim ond yn
dechrau cael y rhyddid a’r arian i deithio ymhellach, a daeth y ceir
modur cyntaf i Sir Faesyfed. Dewiswch o’r pynciau a welwch
chi yma.
|