Tref-y-clawdd a'r cylch
Cludiant
  Cludwyr yr ardal  
 

Yn ystod cyfnod Fictoria roedd y Post Brenhinol yn cludo llythyron o amgylch y wlad ac yn dosbarthu i’ch drws fel ag y maent yn gwneud heddiw, ond nid oeddynt yn cludo nwyddau.
Cwmnïau lleol o gludwyr oedd yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith o gludo nwyddau, ac fe fyddent yn codi tâl am fynd â nwyddau yn eu ceirt.
Mae’r cyfeirlyfrau masnach yn dweud wrthym pwy oedd y cludwyr lleol yn ystod cyfnod Fictoria.

goods carts
  extract from Pigot's Directory

Dyma restr o gwmnïau lleol a fyddai’n mynd â nwyddau ar hyd y ffyrdd tyrpeg yn eu ceirt a hynny am dâl.
Mae wedi dod o Gyfeirlyfr Pigot yn yr 1830au ac mae’n dangos i ni pwy oedd yn cludo nwyddau ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 
Roedd bywyd yn llawer iawn arafach y dyddiau hynny. Fel y gallwch chi weld nid oedd yn bosibl dosbarthu rhywbeth dros nos. Os oeddech yn colli’r wagen i Firmingham fe fyddai’n rhaid i chi sefyll wythnos tan yr un nesaf !  
 

Erbyn 1858, pan gafodd y darn nesaf ei argraffu, nid oedd angen wagenni oedd yn teithio pellteroedd maith. Er mai dim ond dechrau cael ei adeiladu oedd Rheilffordd Calon Cymru, roedd y rheilffordd trwy Craven Arms oedd yn cysylltu’r Amwythig gyda Henffordd eisoes wedi’u hadeiladu. Dim ond cysylltu o Dref-y-clawdd oedd angen i’r wagenni wneud gan fod yna orsaf yno ar gyfer anfon nwyddau i ffwrdd i lefydd pell.

extract from Slater's directory
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Tref-y-clawdd
.

.