Tref-y-clawdd a'r cylch
Cludiant
  Dyfodiad y rheilffordd  
 

Yn yr 1840au a’r 1850au gwelwyd ffrwydriad o waith adeiladu rheilffyrdd ar draws y wlad wrth i ddynion busnes weld ei bod yn bosibl i ennill ffortiwn trwy’r rheilffyrdd.
Poblogaeth fechan oedd gan Sir Faesyfed serch hynny heb unrhyw ddiwydiant na mwynau yno. Byddai adeiladu rheilffordd dim ond ar gyfer trefi bych Sir Faesyfed yn golygu colli arian gan na fyddai yna ddigon yn talu i fynd neu gludo pethau ar y trenau.
Yr awydd i greu cyswllt rhwng porthladd Aberdaugleddau yn Ne Orllewin Cymru a’r dinasoedd a’r ffatrïoedd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru ddaeth â’r rheilffordd drwy’r sir.
Sefydlwyd cwmni Rheilffordd Tref-y-clawdd gan dirfeddianwyr a dynion busnes lleol er mwyn adeiladu llinell rhwng Craven Arms a’r dref. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Awst 1858 a chyrhaeddodd y llinell Dref-y-clawdd ym mis Mawrth 1861. Daeth gweithwyr o bob man i weithio i adeiladu’r llinell a chynyddu wnaeth troseddau lleol. Cafodd pedwar plismon ychwanegol eu cyflogi i ddelio â hyn.

 

Roedd gorsaf Tref-y-clawdd ar draws yr Afon Teme o’r dref ac roedd o fewn ffin Lloegr fel y gallwch chi weld o’r map yma o 1865.
(Mae’r llinell doredig yn cynrychioli’r ffin gyda Lloegr.)

 
 

Mwy am ddyfodiad y rheilffordd...
.
.