Tref-y-clawdd
a'r cylch Roedd y rheilffordd yn prysur dyfu
ar draws Sir Faesyfed ac erbyn Hydref 1865 cyrhaeddodd
Llandrindod. Cafodd Cwmni Rheilffordd
Tref-y-clawdd ei brynu’n ddiweddarach gan gwmni mawr London
and North West Railway a wnaeth y gwaith o redeg y cwmni am
weddill cyfnod Fictoria a thu hwnt.
Cludiant
Dyfodiad
y rheilffordd
Mae hon yn ardal fynyddig ac roedd yn rhaid i’r peirianwyr adeiladu argloddiau,
hafnau a thwnneli fel bod y peiriannau stêm ond yn gorfod mynd ar hyd
tir nad oedd
yn rhy serth.
Efallai mai’r
gwaith peirianneg fwyaf syfrdanol yw’r draphont
yn Cnwclas oedd yn mynd â’r
llinell ar draws y dyffryn.
Mae’r engrafiad yma o bapur newydd cyfnod Fictoria wedi gorliwio maint y
draphont ac uchder bryniau Swydd Amwythig y tu cefn iddo. Serch hynny roedd
y strwythur yn 70 troedfedd o uchder ac roedd yn gryn gamp i’r gweithwyr
a’r peirianwyr.
Daeth y rheilffordd â manteision mawr i ffermwyr a rhai busnesau megis
Melin Wlân Silurian, hefyd daeth
â nwyddau ffatri rhatach i bobl leol. Cafodd hyn effaith anffodus serch
hynny, gan orfodi llawer o fasnachwyr lleol allan o fusnes.