Powys Digital History Project

Llanidloes - Gwrthryfel y Siartwyr 5
Y Marchoglu yn dod i’r dref

  Tynnu cleddyfau
Rhwng dydd Mawrth 30ain Ebrill tan ddydd Sadwrn 4ydd Mai 1839, roedd Llanidloes yn dawel ac yn drefnus gan fod y Siartwyr dan oruchwyliaeth. Ar y dydd Sadwrn cyrhaeddodd y milwyr ychwanegol y gofynnwyd amdanynt gan yr awdurdodau gan gynnwys milwyr troed o Aberhonddu a llu cyfyngedig o Filwyr Iwmyn - daeth rhyw 200 ohonynt i’r dref gyda’u cleddyfau wedi eu tynnu.
Ni wynebodd y milwyr unrhyw wrthwynebiad o gwbl ac yn fwy na thebyg gwelsant fod eu hymateb yn eithafol braidd.
Rhan o’r
hysbysiad gwobrwyo
am ddal
y Siartwyr
(dde)

Carchar Maldwyn
(pellaf ar y dde)

Ffotograff trwy
ganiatâd caredig
Amgueddfa Powysland
Hysbysiad gwobrwyo,1839 Carchar Maldwyn
  Yn ddiweddarach caewyd y dref ac arestiwyd deg ar hugain o Siartwyr, gan gynnwys tair o ferched a’u hanfon i garchar Maldwyn. Arhosodd y gwarchodlu yn y dref hyd haf 1840. Yn dilyn yr achos llys ym mis Gorffennaf mewn perthynas â’r rheini a oedd yn gysylltiedig â’r trafferthion, alltudiwyd tri o ddynion Llanidloes, Abraham Owen, Lewis Humphreys, a James Morris, gwëydd pedair ar bymtheng mlwydd oed o Woolwich ym mis Hydref 1839. Carcharwyd eraill a oedd yn gysylltiedig ym Maldwyn am hyd at flwyddyn. Daeth pump o’r chwe gofyniad yn "Siarter y Bobl" 1838 (heblaw am ethol Senedd yn flynyddol) yn rhan o gyfansoddiad Prydain.
  Mae 5 tudalen ar y Siartwyr. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.
Home page