|
Llanidloes - Gwrthryfel y Siartwyr
2
Deisybu am gyfiawnder
|
|
Wedii wrthod gan
y Senedd
Roedd y llywodraeth a dosbarthiadau llywodraethol y dydd yn elyniaethus
i unrhyw grðp a oedd o blaid hawliau i weithwyr, gan eu hystyried
fel chwyldroadwyr peryglus.
Gwrthwynebwyd dwy ddeiseb gan y Siartwyr a oedd yn cael eu cefnogi
gan nifer enfawr o gefnogwyr yn llwyr gan y Senedd, gan ysgogir
rheini yn y mudiad a oedd yn galw am ddefnyddio grym er mwyn
cael system decach. Roedd eraill yn ceisio newid trwy ddiwygio
heddychlon ar sail moesoldeb a chyfiawnder. |
Y
Llew Coch,
Long Bridge Street,
Llanidloes |
|
|
Sefydlwyd cangen or mudiad
Siartaidd cenedlaethol yn Llanidloes yn 1838, dan arweiniad Richard
Jerman, saer o fri. Cynhaliwyd cyfarfodydd mewn nifer o leoedd
yn y dref, gan gynnwys tafarn y Llew Coch (uchod).
Ar ddiwedd yr 1830au cafwyd sawl terfysg bach yn yr ardal,
roedd y tloty yng Nghaersws a oedd newydd ei adeiladu yn darged
ir rhai a oedd yn gwrthwynebun lleol yn erbyn y rheini
mewn awdurdod. Roedd Siartiaeth yn y cyfnod hwnnw, yn rhoi ffocws
ir chwerwder cynyddol a oedd yn datblygu ymysg y bobl. |
|
Mae 5 tudalen ar y Siartwyr.
Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill. |
|
|
|
|