Powys Digital History Project

Llanidloes - Gwrthryfel y Siartwyr 3
Rhybudd o afreolaeth

  Galw am gymorth milwrol
Ar ddechrau mis Ebrill 1839 cafwyd anerchiad gan Henry Hetherington, un o brif Siartwyr Llundain ac ymgyrchydd am wasg rydd mewn cyfarfod cyhoeddus mawr ond heddychlon a drefnwyd yn Llanidloes.
Yr adeg honno tirfeddianwyr cefnog, ynadon, clercod ac Aelodau Seneddol oedd yn dal y grym a’r dylanwad lleol ac roeddynt yn benderfynol o gadw eu hawliau neilltuedig o fraint ac eiddo. Pan, yn hwyrach y mis hwnnw, roedd sibrydion lleol o wrthryfel arfog, dychrynwyd yr ynadon a gofynnwyd i’r Llywodraeth am gymorth y fyddin a’r heddlu. Fel arfer dim ond un gwyliwr nos oedrannus oedd yn y dref a rhai cwnstabliaid rhan amser nad oedd yn cael eu talu.
T.E.Marsh

Darn o "A Municipal
History of Llanidloes"
gan E.R.Horsfall-Turner
1908
Thomas Edmund MarshRoedd Thomas Edmund Marsh (chwith) yn ddyn pwerus yn y dref yr adeg honno. Roedd yn dirfeddiannwr, cyfreithiwr, ynad a chyn faer cefnog.
Gan fod ynadon Llanidloes wedi rhoi rhybudd o "afreolaeth ddifrifol", anfonwyd tri chwnstabl o Lundain a gofynnwyd i’r awdurdodau recriwtio ‘cwnstabliaid arbennig’ yn lleol.
Recriwtiodd Marsh 300 o ddynion ar unwaith, y gred oedd fod y rhan fwyaf ohonynt yn denantiaid iddo ac ni fyddent wedi medru ei wrthod oherwydd yr ofn o golli swyddi a chartrefi.
  O ganlyniad i gyrhaeddiad y llu arfog anweddus hwn a gafodd ei drefnu ar y pryd ar strydoedd y dref ar y 29ain Ebrill, 1839 cythruddwyd y sefyllfa gan gynyddu’r tyndra lleol. Cyrhaeddodd y tri chwnstabl a anfonwyd o Lundain i Lanidloes y noson honno.
  Mae 5 tudalen ar y Siartwyr. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.
Home page 
  Continue...