Powys Digital History Project

Llanidloes
Gwrthryfel y Siartwyr, 1839

    Pum niwrnod i gofio
Efallai fod y cyfnod enwocaf yn hanes hir Llanidloes yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau dim ond pum niwrnod yn 1839 mewn perthynas â Siartwyr lleol.
Mudiad cenedlaethol y gweithwyr oedd y Siartwyr a aned o ganlyniad i dlodi ac amodau gwaith caled y cyfnod, roedd anfodlonrwydd y bobl wedi bod yn cynyddu’n ddramatig yn ystod yr 1830’au, wedi ei annog gan ddirwasgiad economaidd 1837/8.
Roedd y sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn ardal Llanidloes o ganlyniad i argyfwng ymledol yn y diwydiant gwlân gyda chystadleuaeth o’r trefi gwehyddu yn y gogledd a bygythiadau i obeithion y gwehyddion llaw o ganlyniad i gyflwyno peiriannau gwehyddu wedi eu pweru gan ddwr..
Plac coffâd
ar wal Gwesty
Trewythen Arms,
Llanidloes
Plaque at Trewythen Arms hotel 
Wnaeth cyflwyno Deddf y Tlodion yn 1834 a ddaeth yn lle’r cymorth plwyf i’r tlodion ennyn atgasedd oherwydd sefydlu’r tlotai didrugaredd, achos arwyddocaol arall o chwerwder y bobl; felly hefyd y Deddfau Yd wnaeth gadw prisiau grawn yn artiffisial o uchel.
Daeth enw’r mudiad o ‘Siarter y Bobl’ 1838, wnaeth alw am y bleidlais i bob dyn a newidiadau eraill i’r system boliticaidd a oedd yn amddifadu hawliau democrataidd i bawb heblaw am foneddigion breintiedig y dydd. Yn Llanidloes dim ond 86 o ddynion, ychydig yn fwy na 2% o’r etholwyr a oedd â’r hawl i bleidleisio.
  Y prif ganolfannau milwriaethus yn Lloegr a oedd yn gysylltiedig â’r mudiad oedd Canolbarth Lloegr a rhannau diwydiannol gogledd Lloegr, tra yng Nghymru roedd anghydfod yng Nghasnewydd yn y de, Y Drenewydd a Llanidloes.
  Mae 5 tudalen ar y Siartwyr. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.
Home page 
  Continue...