|
Llanidloes - Gwrthryfel y Siartwyr
4
Terfysg yn Trewythen Arms
|
|
Arestio a rhyddhaur
Siartwyr
Ar forer 30ain Ebrill, 1839 galwyd cyfarfod y Siartwyr
ar y "Long Bridge" dros yr Afon Hafren yn Llanidloes,
yn ystod y cyfarfod hwnnw daeth newydd fod tri ou cefnogwyr
wedi eu harestio gan yr heddweision o Lundain au bod yn
cael eu dal yn Trewythen Arms.
Cynhyrfwyd y dorf o glywed hyn ac aethant ar eu hunion or
bont draw yno, wedi cyrraedd gwelsant y Trewythen wedi ei amgylchynu
gan hanner cant o gwnstabliaid arbennig Marsh wedi
eu harfogi gan ffyn pren. |
.
Gwesty Trewythen Arms,
Llanidloes,
golygfa o
derfysg Siartaidd
Ebrill 1839
Ffotograff trwy
ganiatâd caredig
Amgueddfa Llanidloes |
Yn fuan wedyn rhuthrodd y dorf i mewn ir
gwesty (a welir chwith, ychwanegwyd portsh pren mewn arddull
glasurol yn hwyrach) a rhyddhaur Siartwyr a oedd yn
cael eu dal.
Difrodwyd tu fewn y gwesty yn llwyr, roedd un or heddweision
o Lundain wedi ei guron ddifrifol, a llwyddodd y ddau arall
ddianc a chuddio am eu bywydau. |
|
Credir yn gryf mai Marsh ei hun ddechreuodd y
terfysg er mwyn ei alluogi i ddianc or dorf ddig neu ei
fod wedi gwneud hyn ar bwrpas er mwyn dwyn anfri ar y Siartwyr.
Maen debyg fod yr awdurdodau wedi gorwneud yr anhrefn a
ddigwyddodd yn Llanidloes gydag adroddiadau am nifer fawr iawn
o Siartwyr arfog, gan alw ar yr Arglwydd Raglaw yng Nghastell
Powis am gymorth ar unwaith er mwyn rheolir sefyllfa. |
|
Mae 5 tudalen ar y Siartwyr.
Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill. |
|
|
|
|