Ystradgynlais
Hanes smeltio haearn
  Gwaith haearn yng Nghwm Tawe Uchaf  
 

Yn yr hanner can mlynedd cyn i’r Frenhines Fictoria ddod i’r orsedd, roedd newidiadau enfawr yn digwydd ym Mhrydain. Roedd llawer iawn o’r gwaith yr oedd pobl yn arfer ei wneud, bellach yn cael ei wneud mwy a mwy gan beriannau. Y ffordd fwyaf effeithlon o wneud hyn oedd i roi’r holl beiriannau mewn un adeilad a defnyddio pwer dwr neu ager i’w gweithio. Dyma oedd ffatri.
Yna byddai’n rhaid i’r ffatri gael ffyrdd da o gludo deunyddiau crai i’r ffatri ac i fynd â’r cynnyrch gorffenedig allan. Adeiladwyd ffyrdd, camlesi a thramffyrdd, ac yn ddiweddarach – rheilffyrdd i wneud hyn.

 

Yr enw a roddir ar yr holl newidiadau hyn yw’r Chwyldro Diwydiannol ac roedd angen llawer iawn o haearn. Cwm Tawe Uchaf oedd un o’r ardaloedd pwysicaf o ran cynhyrchu haearn ym Mhrydain ac am gyfnod dyma un o’r prif ardaloedd yn Ewrop am ddatblygiadau newydd yn y gwaith o gynhyrchu haearn.

Dewisiwch o’r ddewislen a welwch chi nesaf er mwyn gweld sut wnaeth cynhyrchu haearn ddatblygu yn yr ardal a sut effeithiodd ar yr ardal yn ystod cyfnod Fictoria.

 
 
Dechrau diwydiant
Sut dechreuodd cynhyrchu haearn yn y cwm
 
 
Datblygiadau newydd yn y cwm
David Thomas a’r ffwrnais chwythiad poeth
 
 
Dyddiau da a dirywiad
Diwrnodau olaf cynhyrchu haearn yn Ynysgedwyn
 
 
Ffowndri a gwaith tun
defnydd newydd ar gyfer hen safle
 
 

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais