Ystradgynlais
Hanes smeltio haearn 4
  Ffowndri a gwaith tun  
 

Erbyn yr 1870’au roedd smeltio haearn yn Ynysgedwyn wedi dod i ben, ond roedd y safle yn cael ei ddefnyddio o hyd. Yn lle cynhyrchu haearn er mwyn i ffatrďoedd eraill eu troi yn beiriannau neu nwyddau eraill, sefydlodd y brodyr Evans ‘Crane Iron Foundry’ (a welwch chi nesaf) i wneud olwynion dramiau a rhannau o reilffyrdd ar gyfer rheilffyrdd y pyllau glo lleol.
Roedd y ffowndri hefyd yn gwneud nwyddau eraill ar gyfer cartrefi fel ffender fras a’r drws haearn yma gyda’r symbol Crane arno sy’n dod o le tân hen gegin.

Y drws o Ffowndri Haearn Crane
  Crane Iron Foundry  
 

Yn ystod cyfnod olaf teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd gwaith Y simnai'n cael ei dymchwelYnysgedwyn yn cael ei redeg gan y ‘Welsh Tin Plate Company’ oedd yn cynhyrchu tun i’w werthu yn U.D.A. a llefydd eraill. Erbyn diwedd cyfnod Fictoria roedd y gwaith hefyd mewn trafferthion ac erbyn 1903 roedd gwaith Ynysgedwyn wedi cau.
Ail-agorwyd y safle a barhaodd y gwaith hyd nes 1946 pan ddaeth cynhyrchu i ben a thynnwyd yr adeiladau i lawr. Roedd simnai uchaf y gwaith dal yno hyd nes yr 1970’au pan ddymchwelwyd hwnnw hefyd (dde).
.

 

Ewch i ddewislen smeltio haearn

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais