Ystradgynlais
Hanes smeltio haearn
Gweithfeydd haearn yn cychwyn yn yr ardal |
Geirfa
|
|
Nid ydym yn gwybod union ddyddiad y cafodd haearn ei smeltio gyntaf yn y cwm ond efallai yr oedd mor bell yn ôl â theyrnasiad Brenhines Elisabeth I cyn 1600. Mae cofnodion yn dangos fod dyn o’r enw Mr Bunton o Lundain wedi adeiladu ffwrnais yn Ynysgedwyn yn 1628. Adeiladwyd ffwrnesi eraill ar y safle yn ystod y blynyddoedd oedd i ddod ac erbyn 1717 roedd y gwaith yn cynhyrchu tua 200 tunnell o haearn bob blwyddyn gan ddefnyddio’r mwyn haearn, calch o’r Cribarth, gan smeltio gyda’r golosg oedd yn cael ei gludo yno gan geffylau pwn. Roedd yr holl ddeunyddiau yn cael eu cludo gan geffylau dros y ffyrdd garw, gan gyfyngu faint oedd yn gallu cael ei gynhyrchu yno. Yn 1750 roedd ffwrnais Ynysgedwyn yn un o saith oedd yn Ne Cymru. |
smeltio
– gwresogi haearn mwyn mewn ffwrnais nes ei fod yn toddi ac y gellir tynnu’r
metel allan. ceffylau pwn – y ceffylau oedd yn cael eu defnyddio i gludo nwyddau. gefail – ystafell neu adeilad lle ceir tân mawr ar gyfer twymo a ffurfio darnau o fetel |
|
Yn
1788 rhoddwyd gwaith haearn Ynysgedwyn ar rent gan y perchnogion i Joseph
Parsons, meistr haearn o Cadoxton. Datblygwyd
y gwaith ganddo trwy ddefnyddio glo yn hytrach na golosg, gan gludo’r glo
lan y cwm. Nid oedd yn bosibl defnyddio’r glo caled lleol o’r enw anthracite
gan nad oedd yn llosgi’n dda yn y ffwrnesi. Er hynny cynyddodd yr haearn
oedd yn cael ei gynhyrchu yno i 800 tunnell y flwyddyn yn efail Ynysgedwyn
gan gynhyrchu peli tanio ar gyfer y fyddin. Mae’r map a welwch chi yn dangos gefail Ynysgedwyn yn 1794. |