Ystradgynlais
Hanes smeltio haearn 2
  Datblygiadau newydd  
 

Erbyn 1800 roedd camlas wedi’i hadeiladu i deithio lan trwy gwm Tawe ac roedd thramffyrdd hefyd wedi’u hadeiladu dros y mynyddoedd i’r Gogledd. Roedd hyn yn meddwl fod glo, calch, a haearn mwyn yn gallu cael eu cludo i’r gweithfeydd haearn yn haws, a bod yr haearn oedd yn cael ei gynhyrchu yn cael ei gludo yn ôl i lawr y gamlas i’r porthladd yn Abertawe a’i anfon o amgylch y byd ar y môr. (Edrychwch ar y map ar Hanes Smeltio Haearn 1 er mwyn gweld llwybr y gamlas).

  Yn 1817 daeth y perchnogion â pheiriannydd ifanc o’r enw David Thomas i ofalu am y gwaith cynhyrchu. Yn yr un flwyddyn daeth George Crane yno i weithio fel Rheolwr y Gwaith. Gweithiodd y ddau yma gyda’i gilydd am ryw ugain mlynedd a newidiodd eu dulliau newydd nhw a roddwyd ar waith yn Ynysgedwyn y ffordd yr oedd y diwydiant haearn yn gweithio gartref a thramor.  
 
 

Daeth David Thomas â math newydd o ffwrnais yno a gynlluniwyd gan beiriannydd o’r Alban o’r enw Neilson. Roedd y ffwrnais hon yn twymo’r aer oedd yn mynd i mewn i’r ffwrnais. (Edrychwch ar y diagram) Sylweddolodd Thomas y gallai’r ffwrnais hon weithio yn Ynysgedwyn gan ganiatáu defnyddio glo carreg o’r enw anthracite o’r pyllau glo lleol.
Daeth ffwrnais newydd arall oedd â chwythiad poeth i Ynysgedwyn yn 1837 ac o hyn ymlaen roedd y gwaith yn medru cynhyrchu haearn o’r ansawdd gorau yn rhatach.

Mwy am Hanes smeltio haearn..

 
 

Ewch i ddewislen smeltio haearn

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais