Ystradgynlais
Hanes smeltio haearn 3
  Ffyniant a dirywiad y gwaith haearn
Geirfa
 

Yn fuan iawn arweiniodd llwyddiant David Thomas gyda’i ffwrnais chwythiad poeth yn Ynysgedwyn at ehangu’r gwaith gyda thair ffwrnais arall yn llosgi glo carreg. David "Papa" ThomasO glywed y newydd hwn daeth diddordeb oddi wrth berchnogion gweithfeydd haearn yn America, lle’r oedd yna ddigon o lo carreg yn y ddaear. Wedi i un ohonynt ymweld ag Ynysgedwyn yn 1838, cynigiodd ‘Lehigh Coal and Navigation Company’ David Thomas (dde) y cyfle i ddatblygu gwaith haearn ym Mhennsylvania. Mudodd Thomas gyda’i deulu ym Mehefin 1839. Cafodd gymaint o lwyddiant yn America nes iddo gychwyn Cwmni Haearn Thomas Hokenauqua a ddaeth yn fuan iawn y cynhyrchwr haearn anthracvite mwyaf yn U.D.A.

mudo – symud i fyw i wlad arall
 
 
  Yn ôl yn Ystradgynlais, parhaodd George Crane â’r gwaith yno, gan yn y pen draw weithio chwe ffwrnais gyda mil o ddynion yn gweithio ar y safle. Prynodd hefyd bump o byllau glo i gadw digon o lo i’r ffwrnesi gan gyflogi 240 o ddynion.  
  Ynyscedwyn ironworks  
 

Wedi i George Crane farw parhaodd y mab â’r gwaith, ond erbyn yr 1850’au roedd gwaith haearn mawr yn Ystalyfera wedi tyfu dipyn yn fwy. Gwelwyd dyfeisiadau newydd mewn mannau eraill a dirywiodd gwaith haearn Ynysgedwyn. Erbyn 1870 dim ond un ffwrnais oedd yn gweithio yno a rhoddwyd y gorau i gynlluniau diweddarach i adeiladu gwaith haearn newydd gan adael bwáu yr adeilad heb eu gorffen.

Mwy am Hanes smeltio haearn..

 
 

Ewch i ddewislen smeltio haearn

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais