Talgarth a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Kelly, 1895 : Talgarth - 3  
 

Dyma ragor o fanylion am Talgarth o dudalennau Cyfeirlyfr Kelly sydd wedi melynu.
Gallwn weld fod gan Talgarth feddyg ei hunan sef William Howells o Church House. Erbyn 1895 roedd meddyginaeth wedi datblygu llawer o’i gymharu â’r rhai a gafwyd ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Serch hynny, ni fyddai llawer o bobl gyffredin y dref yn gallu fforddio ei driniaethau.

Doedd cyhoeddwyr y cyfeirlyfr ddim wedi arfer ag enwau Cymraeg, felly mae nifer o sillafiadau anarferol ar adegau! Ydych chi’n gallu adnabod rhai ohonynt ?
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf
Kelly's directory entry Kelly's directory entry
 

Ymysg y ffermwyr, teilwyr, melinwyr, rhai sy’n gwerthu dillad a chlercod, sylwch hefyd Sargant William Macnulty, ef oedd yn hyfforddi milwyr rhan amser Bataliwn Gwirfoddolwyr Sir Frycheiniog.
Erbyn 1895 roedd gan Talgarth orsaf yr heddlu gyda sargant a chwnstabl. Gallwn weld mai Sargant William Marston oedd yn gyfrifol bryd hynny.

Mwy a fanylion am Dalgarth ar y dudalen nesaf...

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth