Talgarth a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Kelly, 1895 : Bronllys  
 

Dyma fanylion cymuned Bronllys. Gallwch weld mai clerigwyr a’r bonedd (pobl oedd ag incwm annibynnol nad oedd yn gorfod gweithio i ennill bywoliaeth).
Ar ôl hyn roedd y ffermwyr a dynion a merched oedd â chrefft yn y gymuned.

Doedd cyhoeddwyr y cyfeirlyfr ddim wedi arfer ag enwau Cymraeg, felly mae nifer o sillafiadau anarferol ar adegau! Ydych chi’n gallu adnabod rhai ohonynt ?
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf
entry from kelly's Directory Y tirfeddianwyr a’r clerigwyr oedd y trigolion preifat yma.
Sylwch fod yna ddau weinidog o’r capeli lleol yn ogsytal â’r ficer lleol.
 
 

Yma gallwn weld y bobl leol wrth eu gwaith yn y gymuned. Sylwch unwaith eto y byddai rhai pobl yn dilyn mwy nag un grefft i ennill bywoliaeth mewn ardal mor wledig.

Mae’n rhaid fod Morgan Watkins yn ddyn prysur.
A allwch chi weld yr hyn oedd yn ei wneud er mwyn dod â dau ben llinyn ynghyd ?

 

entry from Kelly's directory  
 

Roedd yna hefyd Ysgol Genedlaethol ym Mronllys a adeiladwyd yn 1878. Roedd lle ynddi ar gyfer 72 o blant ac ar adeg y Cyfeirlfyr yma y prifathro oedd John E. Hickley.
(Cliciwch yma er mwyn cael gwybod mwy am fywyd ysgol).

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth