i ysgolion
 

Edrychwch i weld faint newidiodd pethau yng nghymunedau Canolbarth Cymru yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

 
 

Newidiodd llawer iawn o bethau ym mywydau
pobl rhwng
1837 a 1901. Wrth i’r prosiect
rhyngrwyd hwn dyfu dros y 2 flynedd nesaf
bydd yn dangos beth oedd effaith y newidiadau hyn
ar lawer o gymunedau Powys.
 
 
Lleoedd ym Mhowys
Rhai pethau pwysig
 
 

Ar ôl i ni orffen ein gwefan bydd yn cyflwyno hanes lleol 18 o gymunedau’r hen dair sir sef Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog, a bydd yn sôn am yr ardaloedd sydd ar gyffiniau pob tref.

Roedd llawer o ddyfeisiadau newydd, peiriannau newydd, a llawer iawn o waith wrth adeiladu system gamlesi, rheilffyrdd a ffyrdd.
Bydd ein gwefan hefyd yn sôn am bethau fel gofalu am y tlawd, ysgolion a throsedd a chosb.

 
 
Gwybodaeth gefndirol i athrawon
 
 

Bydd cynnwys y wefan hon sydd ar gyfer ysgolion cynradd yn cynyddu dros gyfnod o ddwy flynedd gan ddiweddu ym Mawrth 2002.

Bydd gwybodaeth ynglyn â’r ffordd orau i ddefnyddio’r adnodd newydd hwn ar gyfer athrawon ysgolion cynradd yn cael ei ychwanegu wrth i’r wefan dyfu.

 
 
 
Yn ôl i'r top
Tudalen Flaen Prosiect Hanes Digidol Powys