Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
  Llanwrtyd yn 1887  
 

Mae’r map isod yn ddarn o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir a gafodd ei gynhyrchu yn 1902. Yn debyg i’r map degwm, mae’n dangos y rhyd a’r ardal o gwmpas.
Gallwch weld y newid a fu ers 1845. I ddechrau mae’r pentref bach wrth y bont wedi troi yn dref Llanwrtyd. Gallwch weld bod peth adeiladu wedi digwydd, oherwydd y mae eglwys, dau gapel a gorsaf yr heddlu yn ogystal â gwestai newydd i’w gweld. Mae amlinelliad o newidiadau eraill ar gael isod.

 
  1. Y Rheilffordd oedd yn gyfrifol am y newidiadau hyn i gyd – yn 1860 y daeth y rheilffordd. Tyfodd Llanwrtyd yn gyflym, yn debyg i Landrindod a Llanfair ym Muallt, ar ôl i’r rheilffordd cyrraedd y dref, a chaniatáu i ymwelwyr gyrraedd yr ardal yn llawer cynt ac yn fwy cyfforddus. (Edrychwch ar yr adran ar y ffynhonnau yn yr ardal am fwy o wybodaeth).  
 

2. Mae’r map uchod hefyd yn dangos fod yna ysgol newydd wrth y rheilffordd. Erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria, byddai plant lleol wedi derbyn addysg nes eu bod yn 13 oed. Byddai’r rhan fwyaf o blant yr ardal wedi treulio eu holl fywyd ysgol yn yr adeilad bach hwn. Byddai’r addysg wedi arwain at gyfleon newydd iddynt. (Am fwy o wybodaeth am fywyd mewn ysgol yn oes Fictoria, cliciwch yma).

 
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1887..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanwrtyd

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llanwrtyd