Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
"Pontrhydyfferau" tua 1845 | ||
Os edrychwch chi ar fap degwm
plwyf Llanwrtyd nid oes lle o’r enw Llanwrtyd. Nid oedd yn bodoli yr adeg
honno. Yn lle hynny, yn y fan lle mae’r ffordd yn croesi afon Irfon roedd
pentref bach Pontrhydyfferau (neu weithiau fe fydd pobl yn ei sillafu
Pontrhydyferi). |
MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb |
Roedd yn rhaid i’r tirfesurwyr
oedd wedi gwneud y map ei ffitio ar ddarn mawr o bapur, felly roedd yn
rhaid iddynt droi’r papur fel arall i’w ffitio’n iawn. Yn y llyfr hwn,
mae’r Gogledd ar ben y dudalen fel y byddwch yn gallu cymharu’r map hwn
gyda mapiau diweddarach. Er nad oedd Llanwrtyd yn bodoli eto, gallwch
weld Dolycoed,
ac ar y chwith yn agos i ben y dudalen y mae ffynhonnau
mwynol Dolycoed. Cliciwch ar y llun hwn o "ewin bawd" am fap mwy manwl o’r pentref yr adeg honno. |
||
Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1887.. |